Cyflwynwyd yr ymateb hwn i’r ymgynghoriad ar y Bil Bwyd (Cymru) Drafft

This response was submitted to the consultation on the Draft Food (Wales) Bill

OSFB014

Ymateb gan: | Response from: Cyngor Abertawe | Swansea Council

Overarching principles

Question 1: Do you agree with the overarching principles that the Bill seeks to achieve?

Yes

O ran yr angen i gryfhau diogeledd bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol Cymru, a gwella dewis defnyddwyr, i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, tlodi a'r digwyddiadau byd-eang (gan gynnwys y rhyfel yn Wcráin). Fodd bynnag, dylid hefyd ystyried a yw pasio bil o'r fath yn darparu sicrwydd gwell i gynhyrchwyr cynradd.

Question 2: Do you think there is a need for this legislation? Can you provide reasons for your answer.

Yes

Gallaf. Nod y ddeddfwriaeth yw gorfodi’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) drwy osod dyletswyddau penodol ar gyrff cyhoeddus drwy’r 'Nodau Bwyd' sylfaenol ac eilaidd newydd. Bydd yn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd o ran cyflawni'r nodau hynny, drwy oruchwyliaeth gan Gomisiwn Bwyd Cymru, sydd i'w groesawu.  

Mad Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi strategaeth ac mae Llywodraeth yr Alban wedi pasio deddfwriaeth debyg ac ni ddylai Cymru gael ei gadael ar ôl gweddill y DU.  

Fodd bynnag, mae'n bwysig nad yw'r rheoliadau newydd yn creu pwysau ychwanegol ar gyfer busnesau bwyd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

Food Goals

Question 3: Please provide your views on the inclusion of the Food Goals within the Bill as the means to underpin the policy objectives.

Maen amlwg eu bod yn deillio o amcanion y polisi ac yn hawdd eu deall.

Question 4: Do you agree with the inclusion of a Primary Food Goal supplemented by Secondary Food Goals?

Ydw. Mae angen nodau bwyd sylfaenol ac eilaidd mae'n ymddangos bod y rheini a nodir yn cynnwys y cyfan.

 

Question 5: Are there additional / different areas you think should be included in the Food Goals?

Byddai Cymru'n elwa drwy ddychwelyd at agenda cynnyrch cartref sy'n annog bwyta tymhorol, gan leihau allyriadau drwy lai o filltiroedd bwyd ac yn darparu economi leol gryfach a rhagor o gyfleoedd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r lefel gywir o gymorth i ffermwyr i allu trosglwyddo i arferion ffermio mwy cynaliadwy er mwyn sicrhau ei fod yn ddichonadwy i gynyddu cynhyrchu a chyflenwi marchnadoedd lleol mwy, os ydym am annog diogeledd bwyd gwell. Os ydym am gynnwys cynnyrch lleol yn y broses caffael cyhoeddus, bydd angen cynyddu cyllidebau awdurdodau lleol er mwyn cynnig pris teg i gynhyrchwyr. 

Mae'n amlwg bod angen ymrwymiad cryfach i addysg bwyd a datblygu sgiliau bwyd i sicrhau deietau iachach a lles gwell, er mwyn sicrhau llai o ddibyniaeth ar fwydydd cyfleus wedi'u prosesu. Bydd sgiliau bwyd gwell yn helpu teuluoedd i reoli costau bwyd, darparu gwell iechyd a maeth er mwyn helpu i leihau tlodi bwyd. Mae'r bil yn sôn am sut y dylid cynnig bwyd sy’n agosáu at y ‘dyddiad defnyddio erbyn’ neu’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ mewn archfarchnadoedd i fanciau bwyd i leihau gwastraff bwyd; nid yw hyn o reidrwydd yn cynyddu tlodi bwyd neu faterion lles yn ymwneud â thlodi bwyd. Mae aelwydydd ar incwm isel yn haeddu urddas ynghylch materion tlodi bwyd ac ni ddylent gael eu trin fel dull i leihau gwastraff drwy fwyta bwyd sy’n agosáu at y dyddiad defnyddio erbyn sydd wedi mynd heibio fel eu hunig ddewis. Er mwyn mynd i'r afael â thlodi bwyd dylai'r bil ystyried cynnwys bwydydd ffres i aelwydydd incwm isel.

Mae gorgyffwrdd rhwng y nodau eilaidd, e.e. mewn perthynas â'r nod gwastraff bwyd, gellir cael gostyngiad drwy ailddosbarthu a allai hefyd effeithio ar y nod llesiant economaidd. Yn yr un modd, mae’r nod addysg yn cael effaith ar y nod iechyd a chymdeithasol, felly byddai’n ddefnyddiol cael targedau sy’n cydnabod y gorgyffwrdd hwn. Mae gallu yn y ddeddfwriaeth i ddiwygio’r disgrifiad o’r nodau bwyd eilaidd ac i ddiwygio’r targedau yn dilyn adolygiad.

Question 6: Do you have any additional comments on the Food Goals, including the resource implications of the proposals and how these could be minimised?

Ni fyddwn yn gwybod beth fydd effaith y nodau bwyd tan y cyhoeddir y rheoliadau sy'n nodi'r targedau a'r dyddiad ar gyfer cyflawni'r targedau hynny. Gall hyn fod hyd at 2 flynedd o'r dyddiad y daw'r adran berthnasol o'r Ddeddf i rym.

Mae angen mynd i'r afael â materion yn ymwneud â mynediad i dir ar gyfer cynhyrchu bwyd a'i ddiogelu, er mwyn sicrhau diogeledd bwyd. 

Mae'n hanfodol bod caffael cyhoeddus yn canolbwyntio ar ddod o hyd i fwyd a gynhyrchir yn lleol, fodd bynnag mae angen ystyried pris teg a lefel contract i sicrhau lefel gynaliadwy o gyflenwad. Bydd atebion 'cyflym' ac ymrwymiadau cyllidebol afrealistig yn amharu ar ansawdd y cynnyrch, y gallu i gyflenwi, diddordeb defnyddwyr ac ansawdd deietau.

Mae'n ymddangos bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn cael trafferth gyda'r hinsawdd yn erbyn cynhyrchu bwyd, a ph’un sydd bwysicaf. Er bod y ddau’n bwysig, mae’r brys i fynd i’r afael â’r ddau ar yr un pryd yn union yn ymddangos yn gyfyngol ac fe allai arwain at fethiannau, a allai olygu bod angen cymorth sylweddol ar ragor o ffermydd teuluol, bod angen iddynt arallgyfeirio’r tir i gynhyrchu nwyddau nad ydynt yn fwydydd, neu werthu'r tir. Fodd bynnag, os yw'r bil yn ategu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac yn sicrhau rhagor o farchnadoedd ar gyfradd deg a werthfawrogir, gan ddarparu dewis i ddefnyddwyr terfynol gan eu cysylltu ag opsiynau iachach, yna gorau oll.

Question 7: Please provide your views on the inclusion of targets within the Bill as the means to measure how the Food Goals are being advanced.

Mae'n gwneud synnwyr i gynnwys targedau i fesur y cynnydd ar yr amod bod y targedau'n wrthrychol, yn gyraeddadwy ac yn hyrwyddo'r nod bwyd sylfaenol. Bydd angen ystyried hyn yn ofalus a bydd angen ymagwedd gydlynol at weithio gyda Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac ymgynghori â rhanddeiliaid amrywiol i sicrhau bod mesurau cyraeddadwy yn cael eu pennu ac y ceir canlyniadau pendant. Mae'r amserlenni y soniwyd amdanynt yn ymddangos ychydig yn fyr.

Question 8: Do you agree with the process for setting the targets?

Dylid pennu targedau mewn ymgynghoriad â Chomisiwn Bwyd Cymru a phersonau 'annibynnol'. Ni all aelodau o Gomisiwn Bwyd Cymru fod yn aelodau o'r Senedd, Llywodraeth Cymru nac awdurdodau lleol. Os nad oes ymgynghoriad â'r cyrff cyhoeddus wrth bennu targedau, sut bydd Gweinidogion Cymru'n gwybod a ydynt yn realistig?

Mae angen symleiddio'r broses ar gyfer pennu targedau. Mae pwynt 33 ychydig yn ddryslyd a gallai fod perygl o wanhau nodau'r bil drwy haenau o ddeddfwriaeth a rheoliadau ychwanegol, a allai effeithio ar amserlenni a chyflawni.

Question 9: Do you think the reporting mechanisms set out in the draft Bill provide sufficient accountability and scope for scrutiny?

Nid oes cyfeiriad at graffu gan y cyrff cyhoeddus a fydd dan ddyletswydd i gyflawni'r targedau. A ofynnir i gyrff cyhoeddus e.e. awdurdodau lleol am resymau perthnasol, os na chaiff targedau eu cyflawni? A fydd yr wybodaeth a gyflwynir i'r Senedd hefyd yn cael ei chyhoeddi’n lleol gyda gwybodaeth ynghylch: targedau sy'n berthnasol i'r ardal leol?

Bydd y dulliau adrodd yn dibynnu ar y targedau a osodwyd a'r amserlenni, efallai na fydd y broses a osodwyd yn y drafft yn briodol i lefel y targedau a osodwyd nac ar gyfer pob maes sy'n ymwneud â'r nodau bwyd a'r rheoliadau dilynol.

Question 10: Do you have any additional comments on the targets, including the resource implications of the proposals and how these could be minimised?

Ni fyddwn yn gwybod beth yw goblygiadau'r targedau o ran adnoddau tan iddynt gael eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni fydd y targedau'n cael eu hadolygu tan flwyddyn 5. Efallai y byddai'n syniad cynnal adolygiad cynharach e.e. ar ôl 12 mis i ystyried priodoldeb y targedau a goblygiadau eu cyflawni o ran adnoddau oherwydd efallai na fyddant yn cael eu cyflawni os nad oes adnoddau digonol.

Wales Food Commission

Question 11: What are your views on the need for a Welsh Food Commission?

Bydd angen corff sydd ag adnoddau digonol a all bennu targedau a mesur cyflawniad yn erbyn y targedau hynny ac adrodd amdanynt wrth y Senedd fel y bo’n briodol.

Question 12: Do you agree with the goals and functions of the Welsh Food Commission? If not, what changes would you suggest?

Rydym yn falch o weld bod y swyddogaethau'n cynnwys cynorthwyo cyrff cyhoeddus i osod polisïau bwyd a rhoi cyngor a chymorth iddynt yn gyffredinol gan y bydd y ddeddfwriaeth hon yn arwain at oblygiadau o ran adnoddau i'r cyrff cyhoeddus eu hunain. Dylai'r swyddogaethau gyfeirio at ymgynghori â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â phennu targedau yn ogystal ag adolygu'r targedau.

Question 13: Do you agree with the size of the membership of the Food Commission and the process for appointing its members?

Mae maint yr aelodaeth yn ymddangos yn iawn. Pe byddai'n rhy fawr, gallai rwystro'r broses o wneud penderfyniadau.

Question 14: What are your views on the proposal that the chair and members can serve a maximum term of five years and that an individual may be re-appointed as a chair or member only once? Do you believe this is appropriate?

Gweler y sylwadau uchod am gynnal adolygiad amlach o'r targedau. Fel arall, gallai'r Comisiwn cyfan newid erbyn blwyddyn 5 a byddai ganddo aelodau newydd nad oeddent yn rhan o'r broses i bennu’r targedau gwreiddiol y bwriedir eu hadolygu ac felly efallai na fyddent yn deall y rhesymeg y tu ôl i bennu'r targedau na'r goblygiadau llawn o'u newid.

Question 15: Do you have any additional comments on the Food Commission, including the resource implications of the proposals and how these could be minimised?

Nac oes

National Food Strategy

Question 16: Do you agree that there is a need for a national food strategy?

Rwy’n cytuno, ond mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus 'roi sylw iddi'. Eu prif ddyletswydd yw cyflawni’r targedau felly mae'n rhaid i'r strategaeth fod wedi’i chysylltu’n gydlynol â'r rheini.

Question 17: Do you believe the Welsh Government’s current strategies relating to ‘food’ are sufficiently joined up / coherent?

Os yw’r bil yn gallu darparu ymagwedd gydweithredol at ddatblygu polisi bwyd ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, byddai ganddo’r gallu i leddfu pwysau croestynnol ar gynhyrchwyr bwyd a chadwyni cyflenwi gyda chanlyniadau cadarnhaol.

Question 18: Does the draft Bill do enough to ensure that Welsh Ministers take advice and consult on the strategy before it is made. If no, what additional mechanisms would you put in place?

Byddem yn argymell yr ymgynghorir â chyrff cyhoeddus i gael cefnogaeth wleidyddol ac oherwydd bydd yn rhaid i'r cynlluniau bwyd lleol fod yn berthnasol i'r strategaeth.

Question 19: Do you think the provisions of the draft Bill relating to reporting on the national food strategy are sufficient? If not, what changes would you like to see? 

Ydyn, maen nhw'n ddigonol.

Question 20: Do you think the provisions of the draft Bill relating to reviewing of the national food strategy are sufficient? If not, what changes would you like to see? 

Mae'n bosib bod pum mlynedd yn gyfnod rhy hir cyn yr adolygiad. Efallai y dylai’r cyfnod amser fod yn fyrrach - yn debyg i'r sylwadau uchod yn ymwneud â thargedau.

Question 21: Do you have any additional comments on the National Food Strategy, including the resource implications of the proposals and how these could be minimised?

Nac oes

Local Food Plans

Question 22: Do you agree that there is a need for local food plans?

Bydd y cynlluniau'n angenrheidiol wrth nodi polisïau sy'n ymwneud â datblygu'r nod bwyd sylfaenol a'r nodau bwyd eilaidd a chyflawni'r targedau bwyd. Fodd bynnag, os rhoddir dyletswydd ar awdurdodau lleol i lunio cynlluniau bwyd lleol, dylid rhoi'r adnoddau angenrheidiol iddynt gyflawni'r dasg hon.

Question 23: Does the draft Bill do enough to ensure that public bodies consult on their local food plans before they are made. If no, what additional mechanisms would you put in place?

Nid oes dyletswydd i ymgynghori â'r cyhoedd yn yr ardal berthnasol, ond byddai hynny'n cael ei groesawu gan y bydd y cynlluniau a'r polisïau’n effeithio arnynt.

Question 24: Do you think the provisions of the draft Bill relating to reporting on the local food plans are sufficient? If not, what changes would you like to see? 

Ydw, maen nhw'n ddigonol.

Question 25: Do you think the provisions of the draft Bill relating to reviewing of the local food plans are sufficient? If not, what changes would you like to see? 

Gweler uchod o ran: cyfnodau adolygu’n rhy hir (5 mlynedd)

Question 26: Do you have any additional comments on local food plans, including the resource implications of the proposals and how these could be minimised?

Nac oes

General Provisions

Question 27: Do you agree with the list of persons defined as being a ‘public body’ for the purpose of this Bill?

Ydw

Question 28: Do you have any views on the process for making regulations set out in the Bill?

Nac oes

 

Question 29: Do you have any views on the proposed commencement date for the Act?

Ni fydd y Ddeddf yn cael effaith go iawn ar y cyrff cyhoeddus tan hyd at 2 flynedd o'r dyddiad dechrau pan fydd rheoliadau'n cael eu gwneud i bennu'r targedau.

General Views

Please provide any additional information relevant to the draft Bill.